Joel 1

Y pla locustiaid

1Y neges roddodd yr Arglwydd i Joel fab Pethwel.

2Gwrandwch ar hyn chi arweinwyr;
a phawb arall sy'n byw yn y wlad, daliwch sylw!
Ydych chi wedi gweld y fath beth?
Oes rhywbeth fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen?
3Dwedwch wrth eich plant am y peth.
Gwnewch yn siŵr y bydd eich plant yn dweud wrth eu plant nhw,
a'r rheiny wedyn wrth y genhedlaeth nesaf.
4Mae un haid o locustiaid ar ôl y llall
1:4 un haid o locustiaid ar ôl y llall Mae'r Hebraeg yn rhestru pedwar math o locust ar adegau gwahanol o'u datblygiad.

wedi dinistrio'r cnydau i gyd!
Beth bynnag oedd wedi ei adael ar ôl gan un haid
roedd yr haid nesaf yn ei fwyta!
5Sobrwch, chi griw meddw, a dechrau crïo!
Chi yfwyr gwin, dechreuwch udo!
Does dim ar ôl! Mae'r gwin melys
wedi ei gymryd oddi arnoch.
6Mae byddin fawr bwerus yn ymosod ar y wlad –
gormod ohonyn nhw i'w cyfrif!
Mae ganddyn nhw ddannedd fel llew
neu lewes yn rhwygo'r ysglyfaeth.
7Maen nhw wedi dinistrio'r coed gwinwydd,
a does dim ar ôl o'r coed ffigys.
Maen nhw wedi rhwygo'r rhisgl i ffwrdd,
a gadael y canghennau'n wynion.
8Wylwch, a nadu'n uchel,
fel merch ifanc yn galaru mewn sachliain
am fod y dyn roedd hi ar fin ei briodi
wedi marw.
9Does neb yn gallu mynd ag offrwm o rawn i'r deml
nac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r Arglwydd.
Mae'r offeiriaid sydd i fod i wasanaethu'r Arglwydd
yn galaru.
10Mae'r caeau'n wag.
Does dim byd yn tyfu ar y tir.
Does dim cnydau ŷd na haidd,
dim grawnwin i roi ei sudd,
a dim olew o'r olewydd.
11Mae'r ffermwyr wedi anobeithio,
a'r rhai sy'n gofalu am y gwinllannoedd yn udo crïo.
Does dim ŷd na haidd yn tyfu;
mae'r cnydau i gyd wedi methu.
12Mae'r gwinwydd wedi crino,
ac mae'r coed olewydd wedi gwywo.
Does dim pomgranadau,
dim datys, a dim afalau.
Mae'r coed ffrwythau i gyd wedi crino;
Ac mae llawenydd y bobl wedi gwywo hefyd!

Galw'r bobl i droi yn ôl at Dduw

13Chi'r offeiriaid, gwisgwch sachliain a dechrau galaru.
Crïwch yn uchel, chi sy'n gwasanaethu wrth yr allor.
Weision Duw, treuliwch y nos yn galaru mewn sachliain,
am fod neb yn dod ag offrwm i'r deml.
Does neb bellach yn dod ag offrwm o rawn
nac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r Arglwydd.
14Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn ymprydio;
yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw.
Dewch a'r arweinwyr a phawb arall at ei gilydd
i deml yr Arglwydd eich Duw;
dewch yno i weddïo ar yr Arglwydd.
15O na! Mae dydd barn yr Arglwydd yn agos!
1:15 Mae dydd … agos gw. Eseia 13:6 ac Eseciel 30:2 lle mae cenhedloedd eraill yn cael eu bygwth. Ond yma mae'r geiriau'n cael eu cymhwyso i bobl Israel.

Mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn dod i'n dinistrio ni!
Bydd yn ddiwrnod ofnadwy!
16Does gynnon ni ddim bwyd o'n blaenau,
a dim byd i ddathlu'n llawen yn nheml Dduw!
17Mae'r hadau wedi sychu yn y ddaear.
1:17 hadau … ddaear Un ystyr posibl i destun Hebraeg anodd iawn.

Mae'r stordai'n wag a'r ysguboriau'n syrthio.
Does dim cnydau i'w rhoi ynddyn nhw!
18Mae'r anifeiliaid yn brefu'n daer.
Mae'r gwartheg yn crwydro mewn dryswch,
am fod dim porfa iddyn nhw.
Mae hyd yn oed y defaid a'r geifr yn dioddef.
19Arglwydd, dw i'n galw arnat ti am help.
Mae'r tir pori fel petai tân wedi ei losgi;
a fflamau wedi difetha'r coed i gyd.
20Mae'r anifeiliaid gwylltion yn brefu arnat ti
am fod pob ffynnon a nant wedi sychu, d
a thir pori'r anialwch wedi ei losgi gan dân.
Copyright information for CYM